Antoine de Saint-Exupéry

Awyrennwr ac awdur Ffrengig oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 190031 Gorffennaf 1944).

Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Senegal. Cyhoeddodd ''Courrier Sud'', yn seiledig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.

O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.

Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, ''Le Petit Prince'', yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel ''Y Tywysog Bach'' gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Saint-Exupéry, Antoine de', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Rhif Galw: TF Sai 1 (1994) *-01
    Llyfr
  2. 2
    gan Saint-Exupéry, Antoine de
    Cyhoeddwyd 1988
    Rhif Galw: TF Sai 2 *Sai/Pro
    Llyfr
  3. 3
    gan Saint-Exupéry, Antoine de
    Cyhoeddwyd 1994
    Rhif Galw: TF Sai 1 (1994) *-01
    Llyfr
  4. 4
    gan Saint-Exupéry, Antoine de
    Cyhoeddwyd 1959
    Rhif Galw: TF Sai 2 *Sai/Oeu
    Llyfr