Ludwig Tieck

Beirniad llenyddol a theatr, bardd, nofelydd, dramodydd, a chyfieithydd Almaenig oedd Ludwig Tieck (31 Mai 177328 Ebrill 1853) a fu'n un o hoelion wyth y mudiad Rhamantaidd yn yr Almaen.

Ganed ef ym Merlin, Teyrnas Prwsia, yn fab i grefftwr. Mynychodd y gymnasiwm ym Berlin o 1782 i 1792 cyn iddo astudio ym mhrifysgolion Halle, Göttingen, ac Erlangen o 1792 i 1794. Gydag un o'i gyfeillion agos, W. H. Wackenroder, astudiodd gweithiau William Shakespeare a dramodwyr Saesneg eraill Oes Elisabeth, llenyddiaeth yr Uchel Almaeneg Ganol (o'r 11g i'r 14g), a phensaernïaeth ddinesig yr Oesoedd Canol.

Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r nofel epistolaidd ''Die Geschichte des Herrn William Lovell'' (tair cyfrol, 1795–96), y drasiedi ddramataidd ''Karl von Berneck'' (1797), a'r nofel ''Franz Sternbalds Wanderungen'' (dwy gyfrol, 1798). Ysgrifennodd sawl drama yn seiliedig ar straeon gwerin, gan gynnwys ''Ritter Blaubart'' (Barflas) a ''Der gestiefelte Kater'' (Pws Esgid Uchel), a gesglid, gyda'i nofel fer ''Der blonde Eckbert'', yn y gyfrol ''Volksmärchen'' (1797) dan y ffugenw Peter Leberecht. Ym 1799 cyhoeddodd ei gyfieithiad o ''The Tempest'' gan Shakespeare, a chychwynnodd ar drosi ''Don Quixote'' gan Miguel de Cervantes i'r Almaeneg, a chyhoeddwyd yr hynny mewn rhannau o ym 1799 i 1801. Ar ddiwedd ei gyfnod boreuol, cynhyrchodd y dramâu grotésg ''Leben und Tod der heiligen Genoveva'' (1800) a ''Kaiser Octavianus'' (1804).

Tua throad y ganrif, rhoddai Tieck y gorau i ysgrifennu gweithiau creadigol am ryw chwarter canrif. Treuliodd ei amser yn astudio'r iaith Uchel Almaeneg Ganol, yn casglu a chyfieithu dramâu'r theatr Elisabethaidd, ac yn cyhoeddi argraffiadau newydd o ddramâu Almaeneg o'r 16g a'r 17g. Bu hefyd yn cynghori August Schlegel ar ei gyfieithiad efe o Shakespeare. Cafodd Tieck hefyd ran mewn cyhoeddi gweithiau newydd gan lenorion megis Novalis a Heinrich von Kleist.

Gweithiodd Tieck yn gynghorwr a beirniad i Theatr Dresden o 1825 i 1842, a daeth yn enwog fel beirniad llenyddol gwychaf yr Almaen ers Goethe. Ysgrifennodd ryw 40 o nofelau byrion yn y cyfnod hwn, ac ynddynt gwelir Tieck yn troi yn erbyn y Rhamantwyr ifainc a llenorion y grŵp ''Junges Deutschland''. Cyhoeddodd hefyd fywgraffiad o Shakespeare, ''Dichterleben'' (dwy gyfrol, 1826 a 1831), a'r nofel hanesyddol ''Vittoria Accorombona'' (1840). Derbyniodd wahoddiad y Brenin Ffredrig Wiliam IV i ddychwelyd i'w ddinas enedigol, Berlin, ym 1842, ac yno y bu hyd at ei farwolaeth yn 79 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 57 ar gyfer chwilio 'Tieck, Ludwig', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Tie-01
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  2. 2
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Tie-02
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  3. 3
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1892
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1892) -03
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  4. 4
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1892
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1892) -02
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  5. 5
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1892
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1892) -01
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  6. 6
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Kri-04
    Llyfr
  7. 7
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Kri-03
    Llyfr
  8. 8
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Kri-02
    Llyfr
  9. 9
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: TD Tiec 2 *Tie/Kri-01
    Llyfr
  10. 10
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1985) *-12
    Llyfr
  11. 11
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1988
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1985) *-11
    Llyfr
  12. 12
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1995
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1985) *-07
    Llyfr
  13. 13
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1985) *-06
    Llyfr
  14. 14
    gan Tieck, Ludwig, Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd 1991
    Rhif Galw: TD Tiec 1 (1985) *-01
    Llyfr
  15. 15
    gan Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd yn Novelle.(1968)
    Erthygl
  16. 16
    gan Tieck, Ludwig
    Cyhoeddwyd yn Novelle.(1968)
    Erthygl
  17. 17
    Pennod Llyfr
  18. 18
    Pennod Llyfr
  19. 19
    Pennod Llyfr
  20. 20
    Pennod Llyfr