George Steiner

Beirniad llenyddol, ysgrifwr, academydd, a nofelydd Americanaidd o dras Awstriaidd-Iddewig, a gafodd ei eni a'i fagu yn Ffrainc, oedd Francis George Steiner (23 Ebrill 19293 Chwefror 2020). Mae ei waith yn ymdrin â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a chymdeithas, iaith ac ieithyddiaeth, athroniaeth, ac hanes modern. Oherwydd ei feistrolaeth ar feysydd eang o wybodaeth, fe'i gelwir yn aml yn bolymath. Roedd ganddo werthfawrogiad traddodiadgarol o ganon y Gorllewin a bu'n lladd ar ddamcaniaethau beirniadol megis y Feirniadaeth Newydd, ôl-adeileddaeth, a dadadeiladaeth. Yn ogystal â'i gyfrolau academaidd, astudiaethau llenyddol, a chasgliadau o ysgrifau, cyhoeddodd Steiner un nofel fer a thair chyfrol o straeon byrion.

Ganed Francis George Steiner ym Mharis ar 23 Ebrill 1929. Iddewon a ymfudasant o Fienna yn 1924 oedd ei rieni, Elsie Steiner, Franzos gynt, a'r banciwr buddsoddiadau Frederick George Steiner o Awstria. Yn ôl ei hunangofiant ''Errata'', cafodd genedigaeth George Steiner ei chynorthwyo gan Carl Weiss, yr un meddyg a saethodd y gwleidydd Americanaidd Huey Long yn 1935.

Cafodd ei fagu'n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, a Saesneg. Symudodd gyda'i deulu i Unol Daleithiau America yn 1940 ychydig wythnosau cyn cwymp Ffrainc. Yn Efrog Newydd, mynychodd George y Lycée Français. Cafodd ei wneud yn ddinesydd Americanaidd yn 1944, ac enillodd ei fagloriaeth Ffrengig (''le baccalauréat'') yn 1947. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Chicago yn 1948 a'i radd meistr o Harvard yn 1950. Enillodd Ysgoloriaeth Rhodes i Goleg Balliol, Rhydychen. Gwrthodwyd cyflwyniad cyntaf ei ddoethuriaeth yno.

Treuliodd ei yrfa yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Bu'n aelod o staff golygyddol ''The Economist'' o 1952 i 1956, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen o'r diwedd yn 1955. Gweithiodd yn Sefydliad Uwchefrydiau Prifysgol Princeton o 1956 i 1958, a fe'i penodwyd yn ddarlithydd Christian Gauss yn Princeton o 1959 i 1960. Addysgodd yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, Prifysgol Genefa, ac Harvard. Steiner oedd uwch-olygydd llyfrau ''The New Yorker'' o 1966 i 1997. Yn 1981 cyhoeddwyd ei nofel fer ''The Portage to San Cristóbal of A.H.'', stori sydd yn dychmygu bywyd Adolf Hitler wedi iddo oroesi'r Ail Ryfel Byd.

Priododd George Steiner â Zara Alice Shakow yn 1955, a chawsant un mab, David, ac un ferch, Deborah. Bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 12 canlyniadau o 12 ar gyfer chwilio 'Steiner, George', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: EP 1 ab 01 *Ste/Tol
    Llyfr
  2. 2
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 1988
    Rhif Galw: VL 2 *Ste/Ant
    Llyfr
  3. 3
    Pennod Llyfr
  4. 4
    Erthygl
  5. 5
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: PH 5 *Ste/Von
    Llyfr
  6. 6
    Erthygl
  7. 7
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: GL 2 Stei 2 *Ste/Lan
    Llyfr
  8. 8
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: KW 0 *Ste/cul
    Llyfr
  9. 9
    Erthygl
  10. 10
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 2001
    Rhif Galw: AE 1A 20.2 *Ste/Gra
    Llyfr
  11. 11
    gan Steiner, George
    Cyhoeddwyd 2001
    Rhif Galw: AE 1A 20.2 *Ste/Gra
    Llyfr
  12. 12
    gan Benjamin, Walter
    Cyhoeddwyd 2009
    Awduron Eraill: “...Steiner, George...”
    Rhif Galw: PH 1 Benj 3 *Ben/Ori
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr