Germaine de Staël
bawd|Portread o Germaine de Staël gan François Gérard, tua 1810. Nofelydd, athronydd, ac hanesydd Ffrengig oedd Anne Louise Germaine, baronne de Staël-Holstein (ganwyd Anne Louis Germaine Necker; 22 Ebrill 1766 – 14 Gorffennaf 1817) a elwir yn aml yn Madame de Staël. Trwy ei brwdfrydedd dros Ramantiaeth Almaenig a'i phwyslais ar hanes syniadau, cafodd ddylanwad ar athroniaeth Ewrop, a Ffrainc yn enwedig yn ystod y cyfnodau chwyldroadol a Napoleonig. Y bont rhwng yr Oleuedigaeth a'r mudiad Rhamantaidd yw'r ddelwedd draddodiadol o'i gwaith. Canolbwyntia'r astudiaethau diweddar amdani ar ei phwysigrwydd fel llenores a meddylwraig gwreiddiol a lwyddodd i godi uchlaw'r cyfyngiadau a orfodwyd ar ferched yn ystod ei hoes.Ganwyd ym Mharis i rieni Swisaidd Protestannaidd. Priododd y Barwn Staël-Holstein, diplomydd Swedaidd, ym 1786. Gadawodd Ffrainc ym 1792 yn ystod yr oes chwyldroadol, ond dychwelodd dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth. Cynhaliodd salon ym Mharis a fu'n ganolfan i ddeallusion a gwleidyddion o fri, ac yno enillodd enw i'w hunan fel ymddiddanwraig ffraeth. Yn ddiweddarach gwahanodd o'i gŵr a daeth yn glos i Benjamin Constant.
Ysgrifennodd ddwy nofel a ellir eu hystyried yn "rhag-ffeministaidd": ''Delphine'' (1802) a ''Corinne'' (1807). O ganlyniad i'w gwrthwynebiad i Napoleon Bonaparte bu'n rhaid iddi adael Paris ym 1803. Cyhoeddodd hefyd sawl traethawd ar athroniaeth gymdeithasol ac estheteg, a hefyd y tair cyfrol ''De l'Allemagne'' (1810) yn sgil ei thaith drwy'r Almaen. Cafodd argraffiad cyntaf y gwaith hwnnw ei ddinistrio ar orchymyn Napoleon, gan iddo ei ystyried yn "wrth-Ffrengig". Darparwyd gan Wikipedia
-
1Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Del-02Llyfr
-
2Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Del-01Llyfr
-
3Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Cor-03Llyfr
-
4Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Cor-02Llyfr
-
5Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Cor-01Llyfr
-
6Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Cor-02Llyfr
-
7Rhif Galw: TF Sta 3 *Sta/Cor-01Llyfr
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15Rhif Galw: TF Sta 4 *Sta/CorLlyfr
-
16gan Müller-Vollmer, KurtAwduron Eraill: “...Stael, Germaine de...”
Cyhoeddwyd 1967
Rhif Galw: PH 1 Humb 6 *Mue/PoeLlyfr