Gayatri Chakravorty Spivak
| dateformat = dmy}}Awdures o India yw Gayatri Chakravorty Spivak (ganwyd 24 Chwefror 1942) sydd hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel athronydd, academydd, cyfieithydd, athro prifysgol a beirniad llenyddol.
Fe'i ganed yn Kolkata ar 24 Chwefror 1942. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Calcutta, Prifysgol Iowa a Phrifysgol Cornell. Yn 2019 roedd yn athro prifysgol ym Mhrifysgol Columbia. Yno, sefydlodd Sefydliad Llenyddiaeth Cymharol a Chymdeithas.
Mae'n cael ei hystyried yn un o'r prif ddeallusion ôl-drefedigaethol (''postcolonial'') pennaf. Mae Spivak yn fwyaf adnabyddus am ei thraethawd "All the Subaltern Speak?" ac am ei chyfieithiad a'i chyflwyniad i ''De la grammatologie'' (1967) gan Jacques Derrida. Cyfieithodd weithiau yr awdur ffuglen Mahasweta Devi (1926 – 2016) e.e. ''Mapiau Dychmygol'' a ''Straeon y Fron'' i'r Saesneg a gyda gwerthfawrogiad beirniadol ar wahân o'r testunau a bywyd ac arddull ysgrifennu Devi.
Yn 2013, fe'i anrhydeddwyd hi gyda'r drydedd wobr mwyaf gan Weriniaeth India, sef Gwobr Padma Bhushan. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3Erthygl
-
4
-
5Erthygl
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12Erthygl
-
13Erthygl
-
14Erthygl
-
15Erthygl
-
16Erthygl
-
17
-
18
-
19
-
20