Mary Shelley
Nofelydd Seisnig oedd Mary Wollstonecraft Shelley, née Godwin (30 Awst 1797 – 1 Chwefror 1851), a gofir yn bennaf fel awdures y nofel Gothig ''Frankenstein''. Priododd y bardd Percy Bysshe Shelley a golygodd ei gerddi. Ei thad oedd yr athronwr gwleidyddol William Godwin, a'i mam oedd yr awdures ffeministaidd Mary Wollstonecraft. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2