Arnold Schoenberg
Cyfansoddwr o Awstria oedd Arnold Schoenberg neu Schönberg (13 Medi 1874 – 13 Gorffennaf 1951). Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y Blaid Natsïaidd, a labelodd ei weithiau fel ''Entartete Musik'' ("cerddoriaeth ddirywiedig") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr Rhamantaidd Brahms a Wagner – arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig â'r mudiad Mynegiadaeth ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y dechneg deuddeg-nodyn, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y raddfa gromatig. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.
Yr oedd Schoenberg yn athro cyfansoddi dylanwadol; roedd ei fyfyrwyr yn Ewrop yn cynnwys Alban Berg, Anton Webern, Hanns Eisler, Egon Wellesz, Nikos Skalkottas a Robert Gerhard, ac yn ddiweddarach yn America, John Cage, Lou Harrison, Earl Kim, Leon Kirchner a Dika Newlin. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Erthygl
-
2
-
3Erthygl