Severo Sarduy

Nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd Severo Sarduy (25 Chwefror 19378 Mehefin 1993).

Ganwyd yn Camagüey, Ciwba, i deulu dosbarth-gweithiol o dras Sbaenaidd, Affricanaidd, a Tsieineaidd. Astudiodd feddygaeth yn La Habana yng nghanol y 1950au. Yno daeth yn gyfarwydd â llenorion megis José Rodríguez Feo a José Lezama Lima. Cyhoeddodd Sarduy ei gerddi cyntaf yn y cylchgrawn ''Ciclón''.

Yn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, danfonwyd Sarduy i Ffrainc gan y llywodraeth yn 1960 i astudio celf yn yr École du Louvre. Wedi i'w ysgoloriaeth ddod i ben, penderfynodd Sarduy beidio â dychwelyd i Giwba. Teimlodd yn ddieithr yn sgil sensoriaeth gan lywodraeth Fidel Castro ac erledigaeth yn erbyn dynion hoyw yng Nghiwba, a ni dychwelodd i'w famwlad hyd ei oes. Ym Mharis daeth Sarduy yn gysylltiedig â ''Tel Quel'', cyfnodolyn a hyrwyddai adeileddaeth ac ysgrifennu arbrofol. Roedd hefyd yn ysgrifennu i ''Mundo Nuevo'', cylchgrawn llenyddol Sbaeneg a gyfarwyddwyd gan Emir Rodríguez Monegal.

Ymhlith ei lyfrau mae'r nofelau ''Gestos'' (1963), ''De donde son los cantantes'' (1967), ''Cobra'' (1972), a ''Maitreya'' (1978), a'r casgliad o frasluniau llenyddol ''El Cristo de la rue Jacob'' (1987).

Bu farw ym Mharis o AIDS yn 56 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Sarduy, Severo', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2