Mark Rothko
Arlunydd o Unol Daleithiau America a aned yn Latfia oedd Mark Rothko (25 Medi 1903 – 25 Chwefror 1970).Ganed ef yn Dvinsk (bellach Daugavpils, Latfia), yn y Pâl Gwladychiad yn Ymerodraeth Rwsia, i deulu Iddewig. Ymfudodd gyda'i deulu i'r Unol Daleithiau ym 1913, a threuliodd ei arddegau yn Portland, Oregon. Astudiodd ym Mhrifysgol Yale am ddwy mlynedd cyn symud i Manhattan a chychwyn ar yrfa gelf.
Roedd Rothko yn medru pedair iaith: Hebraeg, Iddew-Almaeneg, Rwseg, a Saesneg. Priododd ddwywaith, a chafodd fab a merch gyda'i ail wraig. Bu farw yn 66 oed trwy hunanladdiad. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4Erthygl