Jacques Maritain

Athronydd Catholig o Ffrancwr oedd Jacques Maritain (18 Tachwedd 188228 Ebrill 1973) sy'n nodedig am ei ddehongliadau o syniadaeth Tomos o Acwin ac am athroniaeth Domistaidd ei hunan.

Ganwyd ym Mharis, a chafodd ei fagu'n Brotestant. Astudiodd yn y Sorbonne ac yno dylanwadwyd arno gan y syniad nad oedd gwyddorau natur yn gallu ateb yr holl gwestiynau am oes a thranc dyn. Gyda'i gyd-fyfyriwr Raissa Oumansoff, Iddewes o Rwsia, mynychodd darlithoedd yr athronydd Henri Bergson a oedd yn arddel sythwelediaeth yn hytrach na gwyddonyddiaeth. Priododd Maritain â Oumansoff yn 1904, a dwyflwydd yn ddiweddarach troesant yn Gatholigion. Astudiodd Maritain fioleg ym Mhrifysgol Heidelberg o 1906 i 1908 cyn iddo ddychwelyd i Baris i astudio Tomistiaeth.

Dechreuodd addysgu yn yr Institut Catholique yn 1913, a daliodd swydd athro athroniaeth fodern o 1914 i 1939. Bu'n ddarlithydd blynyddol i'r Pontifical Institute of Mediaeval Studies ym Mhrifysgol Toronto o 1932 ymlaen, a hefyd yn athro gwadd ym mhrifysgolion Princeton (1941–42) a Columbia (1941–44). Gwasanaethodd yn llysgennad Ffrainc i Ddinas y Fatican o 1945 i 1948. Dychwelodd i Princeton i gymryd swydd athro athroniaeth o 1948 i 1960. Sefydlwyd Canolfan Jacques Maritain ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, yn 1958. Bu farw yn Toulouse yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Maritain, Jacques', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Pennod Llyfr
  2. 2
    Pennod Llyfr