Sibylle Lewitscharoff
| dateformat = dmy}}Awdures Almaenig oedd Sibylle Lewitscharoff (16 Ebrill 1954 – 13 Mai 2023) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, am ennill Gwobr Georg Büchner yn 2013 ac am ei thair nofel ''Pong'' (1998), ''Apostoloff'' (2009) a ''Blumenberg'' (2011).
Fe'i ganed yn Stuttgart ar 16 Ebrill 1954 i dad Bwlgaraidd, a oedd yn feddyg, a mam Almaenaidd. Cyflawnodd ei thad hunanladdiad pan oedd Sibylle yn naw mlwydd oed.
Ar ôl graddio mewn astudiaethau crefyddol ym Mhrifysgol Rydd Berlin, bu'n byw yn Buenos Aires a Pharis cyn dychwelyd i Berlin lle bu'n gweithio fel gwerthwr llyfrau, hyd at 2000.
Dechreuodd Lewitscharoff ei gyrfa fel awdur trwy ysgrifennu ar gyfer radio, gan gynnwys dramâu radio. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, ''36 Gerechte'', yn 1994.
Yn 1998, cyhoeddodd ei nofel gyntaf ''Pong''. Mae'r nofel wedi'i henwi ar ôl ei phrif gymeriad - dyn sydd wedi cael ei ddehongli gan rai adolygwyr fel gwallgofddyn, ac o bosibl heb fod yn gwbl ddynol. Cafodd ei enw oherwydd ei allu i adlamu o broblem i broblem, fel pêl; rhywbeth sydd wedi'i gysylltu â'i enedigaeth. Ei obsesiwn yw perffeithrwydd dynol, yn enwedig merched, ac mae'n cael ei bortreadu fel casäwr gwragedd. Daw'r llyfr i ben gyda chri llawen Pong wrth iddo gyflawni hunanladdiad trwy neidio o'r to i'r ddaear. Cafodd y llyfr ei ganmol am ei iaith chwareus ac enillodd Wobr Ingeborg Bachmann.
Cyhoeddodd y nofel ''Consummatus'' yn 2006, teitl a ddaw o eiriau olaf Iesu Grist ar y groes yn ôl Efengyl Ioan: ''consummatum est'' ("Gorffennwyd"). Y prif gymeriad yw athro Almaeneg Ralph Zimmermann ac mae'r llyfr yn dilyn ei fonolog wrth iddo, un dydd Sadwrn, eistedd ar ei ben ei hun yfed fodca a choffi mewn caffi yn Stuttgart. Mae ei feddyliau'n tin ymdroi llawer o gwmpas marwolaeth ei rieni mewn damwain, ei gariad Johanna (Joey), yn ogystal ag eiconau pop fel Andy Warhol, Jim Morrison ac Edie Sedgwick.
Bu farw o sglerosis ymledol ym Merlin, yn 69 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9Erthygl
-
10gan Lewitscharoff, SibylleAwduron Eraill: “...Lewitscharoff, Sibylle...”
Cyhoeddwyd 2020
Rhif Galw: FS 2 (MM) -168Llyfr -
11
-
12
-
13gan Platonov, Andrej P.Awduron Eraill: “...Lewitscharoff, Sibylle...”
Cyhoeddwyd 2016
Rhif Galw: TR Pla 2 *Pla/Bau,2Inhaltstext
Llyfr -
14Cyhoeddwyd 2011Awduron Eraill: “...Lewitscharoff, Sibylle...”
Rhif Galw: FS 2 (MM) -136Inhaltsverzeichnis
Trafodyn Cynhadledd Llyfr