Mariano José de Larra

Newyddiadurwr, dramodydd, a nofelydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Mariano José de Larra (24 Mawrth 180913 Chwefror 1837).

Ganed ym Madrid. Bu'n rhaid i'w deulu symud i Ffrainc yn 1814, ar ddiwedd Rhyfel Iberia, oherwydd i'w dad gydweithio â'r Ffrancod yn ystod meddiannaeth Sbaen gan luoedd Napoleon. Dychwelant i Sbaen yn 1818, a phenodwyd tad Larra yn feddyg personol i frawd y Brenin Fernando VII.

Cyhoeddodd Larra y papurau newydd ''El duende satírico del día'' (1828) ac ''El pobrecito hablador'' (1832–33). Ysgrifennodd feirniadaeth theatr ar gyfer y papur newydd cenedlaethol ''La revista española'', dan y ffugenw ''Fígaro''. Cynhyrchwyd ei ddrama ''Macías'' yn 1834. Cyhoeddodd ei unig nofel, ''El doncel de Don Enrique el doliente'', yn 1834.

Bu farw ym Madrid trwy hunanladdiad yn 27 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Larra, Mariano José de', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Larra, Mariano José de
    Cyhoeddwyd 1965
    Rhif Galw: TS Lar 2 *Lar/Plu
    Llyfr
  2. 2
    gan Larra, Mariano José de
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: TS Lar 2 *Lar/Art
    Llyfr