Jean-Luc Godard
Roedd Jean-Luc Godard (3 Rhagfyr 1930 – 13 Medi 2022) yn gyfarwyddwyr ffilm o Ffrainc a fagwyd yn y Swistir. Daeth yn un o wneuthurwyr ffilm enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd fel rhan o’r symudiad ''La Nouvelle Vague'' (y don newydd) arloesol yn ystod y 1960au.Mae ei ffilmiau enwocaf yn cynnwys ''A Bout de Souffle, Weekend, Alphaville, Bande à part, Le Mépris'' ac ''One Plus One – Sympathy for the Devil.''
Ganwyd Godard yn Paris yn 1930 i deulu ''bourgeois'', ei dad yn ddoctor preifat, ei fam o deulu o fancwyr. Treuliodd ei blentyndod yn y Swistir cyn dychwelyd i Paris yn 1948 i fynd i Brifysgol y Sorbonne.
Fel myfyriwr mynychodd glybiau sinema ble daeth yn ffrindiau gyda François Truffaut a Jacques Rivette. Yn 1954 dychwelodd Godard i’r Swistir i weithio fel adeiladwr. Gyda’r arian a enillodd gwnaeth ei ffilm fer gyntaf ''Opérion béton'' am adeiladu cronfa dŵr.
Yn ôl yn Paris, daeth yn amlwg fel beirniad sinema, yn ysgrifennu erthyglau i’r cylchgrawn dylanwadol ''Cahiers du cinéma''. Roedd yn feirniadol o wneuthurwyr ffilm sefydledig a thraddodiadol ond yn gefnogol i arloeswyr.
Yn 1959 wnaeth ei ffilm hir gyntaf ''A bout de souffle'' (''Breathless'' oedd y teitl Saesneg). Roedd y ffilm yn llwyddiant enfawr ac enillodd Godard glod mawr am ei syniadau arloesol a radicalaidd o ffilmio a sgriptio. Gyda ffilm Truffaut o'r un flwyddyn ''Les Quatre cents coups'' (''400 Blows'' ) roedd ''A bout de souffle'' yn sylfaen i fudiad ''La Nouvelle Vague'' ac un o gyfnodau mwyaf cyffroes sinema Ffrainc.
Derbyniodd ei ffilmiau nesaf dderbyniad cymysg. Cafodd ''Le Petit soldat'' (1960) ei wahardd tan 1963 gan sensor ffilmiau Ffrainc am iddi ddelio gyda rhyfel annibyniaeth Algeria. Nid oedd ei ffilmiau lliw cyntaf ''Une femme est une femme'' (1961) a ''Les Carabiniers '' (''The Carabineers ''- 1963) yn llwyddiannau mawr gyda’r cyhoedd. Ond roedd ''Vivre sa vie: film en douze tableaux'' (''My Life to Live'' – 1962) gyda'i wraig Anna Karina yn y brif ran yn llwyddiant gyda’r cynulleidfaoedd a’r beirniaid.
bawd|chwith|Anna KarinaRoedd Anna Karina hefyd yn chwarae un o’r prif rannau yn ''Bande à part'' (''Band of Outsiders'' - 1964) ''Pierrot le Fou'' (1965), ac ''Alphaville'' (1966).
Ei lwyddiant masnachol mwyaf oedd ''Le Mépris'' (''Contempt'' – 1963) gyda’r seren ddisglair Brigitte Bardot.
Yn ystod 1960au aeth ffilmiau Godard ar drywydd arbrofol a gwleidyddol. Roedd Godard yn rhan o wrthdystiadau Paris 1968 a daeth yn gefnogwr i syniadaeth gomiwnyddol radicalaidd Mao-aidd. Cyfeirir at ffilmiau o’r cyfnod 1967-1973 fel rhai ''années Mao'' (blynyddoedd Mao). Trodd ei gefn ar sinema masnachol gan gydweithio gyda grwpiau o weithredwyr goleddol i gynhyrchu ffilmiau gwleidyddol ei hun.
Dychwelodd i fyd sinema boblogaidd gyda ''Sauve qui peut'' (1979). Wrth i sinema boblogaidd droi fwyfwy at ffilmiau fformiwla saff a sicrwydd elw, roedd Godard yn dal i greu ffilmiau profoclyd yn ymdrin â themâu gwleidyddol, seicolegol a dynol. Roedd yn derbyn clod gan rhai beirniaid a dilynwyr ffilm cyfoes, ac nid oedd Godard yn poeni bod ei ffilmiau'n cael eu hystyried yn anfasnachol ac yn ‘rhy gymhleth’ ar gyfer cynulleidfa eang. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Rhif Galw: MK 5 *God/His-04Llyfr
-
2Rhif Galw: MK 5 *God/His-03Llyfr
-
3Rhif Galw: MK 5 *God/His-02Llyfr
-
4Rhif Galw: MK 5 *God/His-01Llyfr
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10Cyhoeddwyd 2009Awduron Eraill: “...Godard, Jean-Luc...”
Rhif Galw: MK 5 */HisLlyfr