Friedrich Engels

Athronydd a sosialydd o'r Almaen oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 18205 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd ''Y Maniffesto Comiwnyddol'' (1848) gyda Karl Marx.

Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.

Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y ''Deutsch-Französische Jahrbücher'' dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.

Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr ''Die Lage der arbeitenden Klasse in England'' (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.

Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o ''Das Kapital'' (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 33 ar gyfer chwilio 'Engels, Friedrich', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Erthygl
  2. 2
  3. 3
  4. 4
    Pennod Llyfr
  5. 5
  6. 6
    Erthygl
  7. 7
  8. 8
    gan Engels, Friedrich
    Cyhoeddwyd 1970
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-01
    Llyfr
  9. 9
    Erthygl
  10. 10
    Erthygl
  11. 11
    Rhif Galw: PH 1 Enge 4 *Eng/Cor-03
    Llyfr
  12. 12
    Rhif Galw: PH 1 Enge 4 *Eng/Cor-02
    Llyfr
  13. 13
    Rhif Galw: PH 1 Enge 4 *Eng/Cor-01
    Llyfr
  14. 14
    Erthygl
  15. 15
    Erthygl
  16. 16
    gan Engels, Friedrich, Marx, Karl
    Cyhoeddwyd 1971
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-20
    Llyfr
  17. 17
    gan Engels, Friedrich, Marx, Karl
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-36
    Llyfr
  18. 18
    gan Engels, Friedrich, Marx, Karl
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-37
    Llyfr
  19. 19
    gan Engels, Friedrich, Marx, Karl
    Cyhoeddwyd 1968
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-38
    Llyfr
  20. 20
    gan Engels, Friedrich, Marx, Karl
    Cyhoeddwyd 1968
    Rhif Galw: PH 1 Marx 1 (1956) *-39
    Llyfr