Assia Djebar
Llenor o Algeria yw Assia Djebar (arabeg : آسيا جبار), (enw genedigol: Fatima-Zohra Imalayène). Ganwyd yn Cherchell, Algeria, 30 Mehefin 1936; m. 6 Chwefror 2015.Ysgrifenna yn yr iaith Ffrangeg, a mae hi wedi cyhoeddi nofelau, straeon byrion, barddoniaeth a thraethodau damcaniaethol, yn ogystal â chyfarwyddo ffilmiau. Ymysg themâu ei gwaith mae cyflwr merched, hanes, ac Algeria, drwy chwyddwydr ei hamryw ieithioedd a'i hanes o drais. Caiff ei hystyried yn un o awduron enwocaf a mwyaf dylanwadol y Maghreb. Cafodd ei hethol yn aelod o'r Académie française yn 2005. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4Erthygl
-
5
-
6Erthygl