Richard Dawkins

| mangeni = Nairobi, Cenia | dyddiadmarw = | manmarw = | enwbarddol = | galwedigaeth = | cenedligrwydd = Prydeinig | ethnigrwydd = | dinasyddiaeth = | addysg = | cyfnod = | math = | pwnc = Etholeg a bioleg esblygiadol | symudiad = | gwaithnodedig = | gwobrau = | priod = Lalla Ward | cymar = | plant = | perthnasau = | dylanwad = | wedidylanwadu = | llofnod = | gwefan = }} Etholegydd, biolegydd esblygiadol a llenor gwyddoniaeth boblogaidd Brydeinig yw Clinton Richard Dawkins, FRS, FRSL (ganwyd 26 Mawrth 1941 yn Nairobi, Cenia). Ef oedd enillydd cyntaf Cadair Charles Simonyi am Ddealltwriaeth Wyddonol y Cyhoedd ym Mhrifysgol Rhydychen, mae hefyd yn gymrawd athrawol o Goleg Newydd, Rhydychen.

Daeth Dawkins yn amlwg gyda chyhoeddiad ei lyfr ''The Selfish Gene'' ym 1976, gwaith a boblogeiddiodd y safbwynt genyn-ganolog o esblygiad a chyflwynodd y term ''meme''. Ym 1982, gwnaeth cyfraniad blaenllaw i fioleg esblygiadol gyda'r theori, a gyflwynwyd yn ei lyfr ''The Extended Phenotype'', nad yw effeithiau ffenoteipol yn gyfyngedig i gorff organeb, ond gallent ymestyn yn bell i'r amgylchedd, yn cynnwys cyrff organebau eraill.

Yn ogystal â'i waith biolegol, adnabyddir Dawkins am ei farnau ar anffyddiaeth, esblygiad, creadaeth, dyluniad deallus, a chrefydd; beirniad amlwg o greadaeth a dyluniad deallus ydyw. Yn ei lyfr 1986 ''The Blind Watchmaker'', dadleuodd yn erbyn cyfatebiaeth yr oriadurwr, dadl dros fodolaeth creawdwr goruwchnaturiol sy'n seiliedig ar gymhlethdod organebau byw, ac yn lle'r cysyniad hwn disgrifiodd brosesau esblygiadol yn gyfatebol i oriadurwr ''dall''. Ers hynny mae Dawkins wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gwyddonol poblogaidd, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio, gan amlaf yn trafod y pynciau a nodir uchod.

Mae Dawkins yn anffyddiwr, rhydd-feddyliwr, dyneiddiwr seciwlar, sgeptig, rhesymolwr gwyddonol, a chefnogwr i'r mudiad Brights. Fe'i disgrifiwyd weithiau yn y cyfryngau fel "Rottweiler Darwin", yn gyfatebol i'r biolegydd o Sais T. H. Huxley, a adnabyddir fel "Bulldog Darwin" am ei gefnogaeth i ddetholiad naturiol. Yn ei lyfr 2006 ''The God Delusion'', dadleuodd Dawkins ei bod bron yn sicr nad yw creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli ac felly mae ffydd grefyddol yn cyfrif fel rhithdyb. Llyfr mwyaf poblogaidd Dawkins yw ''The God Delusion''; mae'r fersiwn Saesneg wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o gopïau ac wedi'i gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Dawkins, Richard', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2008
    Rhif Galw: BL 3 *Daw/Ges
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  2. 2
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2000
    Rhif Galw: PH 2B *Daw/ent
    Llyfr
  3. 3
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: PH 2B *Daw/Unw
    Llyfr
  4. 4
    Erthygl
  5. 5
    gan Blackmore, Susan
    Cyhoeddwyd 2000
    Awduron Eraill: “...Dawkins, Richard...”
    Rhif Galw: PH 3 *Bla/Mac
    Llyfr