Giovanni Boccaccio
Bardd ac awdur Eidalaidd oedd Giovanni Boccaccio (Mehefin neu Gorffennaf 1313 – 21 Rhagfyr 1375). Daeth yn un o ffigyrau amlwg y Dadeni Dysg yn yr Eidal. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y ''Decamerone''. Ganed Boccaccio yn fab llwyn a pherth i'r marsiandïwr Boccaccio di Chellino, yn Certaldo neu Fflorens. Aeth i Napoli yn 1327 i weithio fel marsiandïwr. Tua 1340 roedd yn Fflorens, lle daeth yn gyfeillgar â Francesco Petrarca, a'i rhoes mewn cysylltiad a byd y dyneiddwyr. Ysgrifennodd fywgraffiad Dante, (''Trattatello in laude di Dante'', neu ''Vita di Dante'') tua 1360. Darparwyd gan Wikipedia-
1Erthygl
-
2Cyhoeddwyd 1955Awduron Eraill: “...Boccaccio, Giovanni...”
Rhif Galw: TI 0 06/16 */AntLlyfr