Bardd, awdur, beirniad, ffeminist ac ymgyrchydd cymdeithasol o Ganada yw Margaret Eleanor Atwood (ganed 18 Tachwedd1939). Mae hi ymhlith yr awduron ffuglen i gael ei gwobrwyo fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf: enillodd Wobr Arthur C. Clarke a Gwobr Tywysog Asturias am Lenyddiaeth, a bu ar restr fer y Wobr Booker ar bum achlysur, gan ennill unwaith. Mae'n enwog am ei gwaith fel nofelydd yn bennaf, tra bod ei cherddi yn cael eu hysbrydoli gan chwedlau a straeon tylwyth teg, sydd wedi bod o ddiddordeb iddi er pan oedd yn blentyn bach. Mae Atwood hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion yn y ''Tamarack Review'', ''Alphabet'', ''Harper's'', ''CBC Anthology'', ''Ms.'', ''Saturday Night'', ''Playboy'', a nifer o gylchgronau eraill.
Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Atwood, Margaret', amser ymholiad: 0.03e
Mireinio'r Canlyniadau