Jean Améry
Ysgrifwr a nofelydd Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg oedd Jean Améry (Hanns Chaim Mayer; 31 Hydref 1912 – 17 Hydref 1978) a wnâi dynnu ar ei brofiadau o'r Holocost yn ei waith.Ganed Hanns Chaim Mayer yn Fienna, Awstria-Hwngari, yn fab i dad Iddewig a mam Gatholig. Yn sgil marwolaeth ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr Anschluss ym 1938, ffoes i Ffrainc, ac yna i Wlad Belg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn gwersylloedd crynhoi yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac Auschwitz yng Ngwlad Pwyl. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosáu, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.
Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r Almaen ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw Ffrangeg Jean, cyfeiriad at Jean-Paul Sartre, ac Améry, anagram o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy hunanladdiad, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn Salzburg.
Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-08Llyfr
-
3Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-04Llyfr
-
4Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-07Llyfr
-
5Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-06Llyfr
-
6Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-05Llyfr
-
7Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-03Llyfr
-
8Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-02Llyfr
-
9Rhif Galw: TD Amer 1 (2002) *-01Llyfr
-
10
-
11
-
12gan Améry, Jean
Cyhoeddwyd yn Ein Schriftsteller schreibt ein Buch über einen Schriftsteller, der zwei Bücher über zwei Schriftsteller schreibt, von denen einer schreibt, weil er die Wahrheit liebt, der andere, weil sie ihm gleichgültig ist. Von diesen zwei Schriftstellern werden insgesamt zweiundzwanzig Bücher geschrieben. : Dichter über Dichter und Dichtung.(1984)Erthygl -
13gan Benda, JulienAwduron Eraill: “...Améry, Jean...”
Cyhoeddwyd 1988
Rhif Galw: PL 6 ef 19/20 *Ben/VerLlyfr