Ludwig Tieck
Beirniad llenyddol a theatr, bardd, nofelydd, dramodydd, a chyfieithydd Almaenig oedd Ludwig Tieck (31 Mai 1773 – 28 Ebrill 1853) a fu'n un o hoelion wyth y mudiad Rhamantaidd yn yr Almaen.Ganed ef ym Merlin, Teyrnas Prwsia, yn fab i grefftwr. Mynychodd y gymnasiwm ym Berlin o 1782 i 1792 cyn iddo astudio ym mhrifysgolion Halle, Göttingen, ac Erlangen o 1792 i 1794. Gydag un o'i gyfeillion agos, W. H. Wackenroder, astudiodd gweithiau William Shakespeare a dramodwyr Saesneg eraill Oes Elisabeth, llenyddiaeth yr Uchel Almaeneg Ganol (o'r 11g i'r 14g), a phensaernïaeth ddinesig yr Oesoedd Canol.
Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r nofel epistolaidd ''Die Geschichte des Herrn William Lovell'' (tair cyfrol, 1795–96), y drasiedi ddramataidd ''Karl von Berneck'' (1797), a'r nofel ''Franz Sternbalds Wanderungen'' (dwy gyfrol, 1798). Ysgrifennodd sawl drama yn seiliedig ar straeon gwerin, gan gynnwys ''Ritter Blaubart'' (Barflas) a ''Der gestiefelte Kater'' (Pws Esgid Uchel), a gesglid, gyda'i nofel fer ''Der blonde Eckbert'', yn y gyfrol ''Volksmärchen'' (1797) dan y ffugenw Peter Leberecht. Ym 1799 cyhoeddodd ei gyfieithiad o ''The Tempest'' gan Shakespeare, a chychwynnodd ar drosi ''Don Quixote'' gan Miguel de Cervantes i'r Almaeneg, a chyhoeddwyd yr hynny mewn rhannau o ym 1799 i 1801. Ar ddiwedd ei gyfnod boreuol, cynhyrchodd y dramâu grotésg ''Leben und Tod der heiligen Genoveva'' (1800) a ''Kaiser Octavianus'' (1804).
Tua throad y ganrif, rhoddai Tieck y gorau i ysgrifennu gweithiau creadigol am ryw chwarter canrif. Treuliodd ei amser yn astudio'r iaith Uchel Almaeneg Ganol, yn casglu a chyfieithu dramâu'r theatr Elisabethaidd, ac yn cyhoeddi argraffiadau newydd o ddramâu Almaeneg o'r 16g a'r 17g. Bu hefyd yn cynghori August Schlegel ar ei gyfieithiad efe o Shakespeare. Cafodd Tieck hefyd ran mewn cyhoeddi gweithiau newydd gan lenorion megis Novalis a Heinrich von Kleist.
Gweithiodd Tieck yn gynghorwr a beirniad i Theatr Dresden o 1825 i 1842, a daeth yn enwog fel beirniad llenyddol gwychaf yr Almaen ers Goethe. Ysgrifennodd ryw 40 o nofelau byrion yn y cyfnod hwn, ac ynddynt gwelir Tieck yn troi yn erbyn y Rhamantwyr ifainc a llenorion y grŵp ''Junges Deutschland''. Cyhoeddodd hefyd fywgraffiad o Shakespeare, ''Dichterleben'' (dwy gyfrol, 1826 a 1831), a'r nofel hanesyddol ''Vittoria Accorombona'' (1840). Derbyniodd wahoddiad y Brenin Ffredrig Wiliam IV i ddychwelyd i'w ddinas enedigol, Berlin, ym 1842, ac yno y bu hyd at ei farwolaeth yn 79 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
41
-
42
-
43
-
44
-
45
-
46
-
47
-
48Rhif Galw: TD Tiec 4 *Tie/Eri-2Llyfr
-
49Rhif Galw: TD Tiec 4 *Tie/Eri-1Llyfr
-
50Rhif Galw: TD Tiec 4 *Tie/EriLlyfr
-
51
-
52Cyhoeddwyd 1979Awduron Eraill: “...Tieck, Ludwig...”
Rhif Galw: T 0 DT 16/17 */Deu-02Llyfr -
53Cyhoeddwyd 1979Awduron Eraill: “...Tieck, Ludwig...”
Rhif Galw: T 0 DT 16/17 */Deu-01Llyfr -
54Cyhoeddwyd 1979Awduron Eraill: “...Tieck, Ludwig...”
Rhif Galw: T 0 DT 16/17 */DeuLlyfr -
55Cyhoeddwyd 1975Awduron Eraill: “...Tieck, Ludwig...”
Rhif Galw: TD Tiec 3 */PhaLlyfr -
56gan Shakespeare, WilliamAwduron Eraill: “...Schlegel, August Wilhelm ; Tieck, Ludwig...”
Cyhoeddwyd 2002
Rhif Galw: TE Sha 1 (2002)Llyfr -
57Cyhoeddwyd 1933Awduron Eraill: “...Tieck, Ludwig...”
Rhif Galw: TD 0 01 */Deu -RR,07Llyfr