Ann Radcliffe

Llenor Seisnig oedd Ann Radcliffe (Ann Ward; 9 Gorffennaf 17647 Chwefror 1823) sydd yn nodedig am ei nofelau Gothig.

Ganed Ann Ward yn Holborn, Llundain, i deulu digon cefnog. Priododd Ann â'r newyddiadurwr William Radcliffe ym 1787.

Cyhoeddwyd ei dwy nofel gyntaf, ''The Castles of Athlin and Dunbayne'' (1789) ac ''A Sicilian Romance'' (1790), yn ddienw. Daeth yn enwog am ei thrydedd nofel, ''The Romance of the Forest'' (1791), a leolir yn Ffrainc yn yr 17g, ac yn sgil derbyniad ei nofel nesaf, ''The Mysteries of Udolpho'' (1794), hi oedd y nofelydd mwyaf poblogaidd yn Lloegr. Ystyrir ''The Mysteries of Udolpho'' a ''The Italian'' (1797), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei hoes, ymhlith yr enghreifftiau gwychaf o'r nofel Gothig.

Teithiodd Radcliffe i'r cyfandir unwaith yn unig, i'r Iseldiroedd a'r Almaen ym 1794. Ysgrifennodd y gyfrol ''A Journey Made in the Summer of 1794'' (1795) am ei thaith. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei hoes yn cyfansoddi barddoniaeth, yn bennaf. Bu farw Ann Radcliffe yn Llundain yn 58 oed. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd y nofel ''Gaston de Blondeville'' (1826). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Radcliffe, Ann', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Radcliffe, Ann
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: TE Rad 3 *Rad/rom
    Llyfr
  2. 2
    gan Radcliffe, Ann
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: TE Rad 3 *Rad/mys
    Llyfr