Bardd, dramodydd ac awdur Pwylaidd oedd Tadeusz Różewicz (9 Hydref1921 - 24 Ebrill2014). Roedd yn perthyn i'r genhedlaeth gyntaf o awduron o Wlad Pwyl a anwyd ar ôl i Wlad Pwyl adennill ei hannibyniaeth yn 1918. Cafodd ei eni yn Radomsko ger Łódź. Cyhoeddwyd ei gerddi cyntaf ym 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel ei frawd Janusz (hefyd yn fardd), bu'n filwr ym Myddin Gartref tanddaeraol Gwlad Pwyl. Roedd ei frawd arall Stanislaw yn gyfarwyddwr ffilm adnabyddus.
Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Różewicz, Tadeusz', amser ymholiad: 0.03e
Mireinio'r Canlyniadau