Sylvia Plath

Bardd, nofelydd ac ysgrifennydd straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Sylvia Plath (27 Hydref 193211 Chwefror 1963). Fe'i ganwyd yn Boston, Massachusetts, ac astudiodd yng Ngholeg Smith a Choleg Newnham, Caergrawnt cyn derbyn cydnabyddiaeth fel bardd a llenor proffesiynol.

Priododd y bardd Ted Hughes, yn 1956 a bu'r ddau'n byw yn yr Unol Daleithiau i ddechrau ac yna yn Lloegr. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd, Frieda a Nicholas. Dioddefai Plath o iselder am gyfnodau helaeth o'i bywyd fel oedolyn ac yn 1963 cymerodd ei bywyd ei hun. Mae ei bywyd a'i marwolaeth, ynghyd â'i hysgrifennu a'i dylanwad yn parhau i fod yn ddadleuol

Cydnabyddir Plath am ddatblygu genre o farddoniaeth gyffesol ac mae hi fwyaf enwog am ei dwy gyfrol gyhoeddedig, ''The Colossus and Other Poems'' ac ''Ariel''. Yn 1982, enillodd Wobr Pulitzer ar ôl ei marwolaeth, am ''The Collected Poems''. Roedd hi hefyd wedi ysgrifennu ''The Bell Jar'', nofel rhannol-hunangofiannol a gyhoeddwyd ychydig cyn ei marwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Plath, Sylvia', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Erthygl
  2. 2
    gan Plath, Sylvia
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: TE Pla 4 *Pla/Bri
    Llyfr