Charles Péguy

Bardd, ysgrifwr, a golygydd Ffrengig oedd Charles Péguy (7 Ionawr 18735 Medi 1914) a ddefnyddiai ei ysgrifbin i fynegi ei athroniaeth Gristnogol a'i sosialaeth wladgarol.

Ganed yn Orléans, Loiret, yng nghyfnod Trydedd Weriniaeth Ffrainc, i deulu tlawd. Bu farw ei dad pan oedd Charles yn faban, ac enillodd ei fam arian wrth drwsio cadeiriau. Derbyniodd Charles ysgoloriaeth i fynychu'r ''lycée'' yn Orléans, ac ym 1894 cafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure ym Mharis. Ei nod oedd i gael swydd yn athro athroniaeth. Trodd Péguy yn sosialydd ym 1895, ac yn raddol rhoes y gorau i'w Gatholigiaeth Rufeinig draddodiadol, er iddo barhau yn Gristion pybyr. Ysgrifennodd driawd o ddramâu, ''Jeanne d'Arc'' (1897), yn ddatganiad o'i daliadau crefyddol a gwleidyddol. Dan ddylanwad Lucien Herr, llyfrgellydd yr École Normale Supérieure, ymochrai Péguy â'r Dreyfusiaid yn achos Dreyfus, a rheolodd siop lyfrau a oedd yn fan cyfarfod i'r Dreyfusiaid.

Ym 1900 sefydlodd y cylchgrawn llenyddol ''Cahiers de la Quinzaine'', a fyddai'n cyhoeddi gwaith gan nifer o lenorion a meddylwyr amlwg gan gynnwys Anatole France, Henri Bergson, Jean Jaurès, a Romain Rolland. Cyhoeddodd Péguy sawl cyfrol o'i ysgrifau, ac mae ei farddoniaeth yn cynnwys ''Le Mystère de la charité de Jeanne d’Arc'' (1910), gwaith cyfriniol sydd yn ymhelaethu ar olygfeydd ''Jeanne d'Arc''; ''Mystère des Saints Innocents'' (1912); ac ''Ève'' (1913), cerdd Gristnogol ar ffurf 4000 o alecsandrinau.

Yn sgil dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Péguy i'r ffrynt fel lefftenant. Bu farw ym Mrwydr Cyntaf y Marne, ger Villeroy, Seine-et-Marne, yn 41 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 9 canlyniadau o 9 ar gyfer chwilio 'Péguy, Charles', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Péguy, Charles, Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1992
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu-03
    Llyfr
  2. 2
    gan Péguy, Charles, Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1988
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu-02
    Llyfr
  3. 3
    gan Péguy, Charles, Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu-01
    Llyfr
  4. 4
    gan Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 2017
    Rhif Galw: FS 2 (FW) -099
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  5. 5
    gan Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1994
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu
    Llyfr
  6. 6
    gan Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu-01
    Llyfr
  7. 7
    gan Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1959
    Rhif Galw: TF Peg 2 *Pég/Oeu
    Llyfr
  8. 8
    Erthygl
  9. 9
    gan Sabiani, Julie, Péguy, Charles
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: TF Peg 3 *Sab/Bal
    Llyfr