Gottfried Wilhelm Leibniz
Athronydd Almaenig oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 1646 – 14 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.
Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y ''characteristica universalis'' — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.
Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) ''Nouveaux Essais sur l'entendement humain'' (1704), ''Essais de théodicée'' (1710) a ''Monadologie'' (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o ''monades'' a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (''Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles'').
Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol ''Candide'', sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18g. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.
Bu farw Leibniz yn Hannover yn 1716, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Rhif Galw: PH 1 Leib 2 *Lei/Phi-03,2Llyfr
-
2Rhif Galw: PH 1 Leib 2 *Lei/Phi-03,1Llyfr
-
3Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-07Llyfr
-
4Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-06Llyfr
-
5Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-05Llyfr
-
6Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-04Llyfr
-
7Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-03Llyfr
-
8Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-02Llyfr
-
9Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1875) *-01Llyfr
-
10Versuche in der Theodicée über die Güte Gottes, die Freiheit des Menschen und den Ursprung des ÜbelsRhif Galw: PH 1 Leib 1 (1996) *-04Llyfr
-
11Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1996) *-03Llyfr
-
12Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1996) *-02Llyfr
-
13Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1996) *-01Llyfr
-
14Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-07Llyfr
-
15Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-06Llyfr
-
16Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-05Llyfr
-
17
-
18
-
19
-
20