Karl Jaspers

Athronydd a seiciatrydd Almaenig oedd Karl Theodor Jaspers (23 Chwefror 188326 Chwefror 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at seicopatholeg a'i athroniaeth a ystyrir yn ffurf ar ddirfodaeth, er na disgrifiai ei hun yn ddirfodwr. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar seicoleg, diwinyddiaeth, ac athroniaeth yn yr 20g.

Ganed ef yn Oldenburg yng ngogledd-orllewin Ymerodraeth yr Almaen, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Heidelberg yn bennaf cyn iddo gychwyn ar yrfa yn feddyg ac academydd. Gwasanaethodd yn feddyg milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, profiad a gafodd effaith bwysid ar ei feddwl. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Heidelberg i weithio'n seiciatrydd, a datblygodd ei ddull o ymdrin ag afiechyd meddwl trwy ddealltwriaeth empathig o brofiad y claf.

Canolbwyntia gweithiau cynnar Jaspers ar natur yr ymwybyddiaeth a'r cyfyngiadau ar wybodaeth ddynol. Yn ei gyfrol ''Psychologie der Weltanschauungen'' (1919), lluniai ei ddamcaniaeth o "sefyllfaoedd y terfyn", sef yr achlysuron mewn bywyd sydd yn gorfodi dyn i wynebu'r rhwystrau i'w ddealltwriaeth a phrofiad.

Diswyddwyd Jaspers o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Dychwelodd i Heidelberg ym 1945, a chafodd ran wrth ailadeiladu byd deallusol a thraddodiad athronyddol yng Ngorllewin yr Almaen wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Canolbwyntia gweithiau diweddar Jaspers ar y berthynas rhwng athroniaeth a ffydd, ac archwiliodd y posibiliad o drosgynnu gwybodaeth a phrofiad cyfyngedig y ddynolryw drwy gyfriniaeth. Symudodd yn ôl i'r Swistir ar ddiwedd ei oes, a bu farw Karl Jaspers yn Basel yn 86 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 13 canlyniadau o 13 ar gyfer chwilio 'Jaspers, Karl', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    gan Jaspers, Karl
    Cyhoeddwyd 1946
    Rhif Galw: PH 1 Niet 6 *Jas/Nie,2
    Traethawd Ymchwil Llyfr
  3. 3
    Erthygl
  4. 4
    Erthygl
  5. 5
    Erthygl
  6. 6
    gan Jaspers, Karl
    Cyhoeddwyd 1936
    Rhif Galw: PH 1 Niet 6 *Jas/Nie
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  7. 7
    gan Jaspers, Karl
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: FS 2 (Merve) -210
    Llyfr
  8. 8
    gan Jaspers, Karl
    Cyhoeddwyd 1965
    Rhif Galw: SZ 3B *Jas/gei
    Llyfr
  9. 9
    Rhif Galw: PH 1 Jasp 4 *Jas/Kor -03
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  10. 10
    Rhif Galw: PH 1 Jasp 4 *Jas/Kor -02
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  11. 11
    Rhif Galw: PH 1 Jasp 4 *Jas/Kor -01
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr
  12. 12
    gan Arendt, Hannah, Jaspers, Karl
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: PH 1 Aren 4 *Are/Bri
    Llyfr
  13. 13
    gan Jaspers, Karl <1883-1969>
    Cyhoeddwyd 2016
    Rhif Galw: PH 1 Jasp 4 *Jas/Kor
    Llyfr