Zora Neale Hurston
| dateformat = dmy}}Awdur dylanwadol Affro-Americanaidd oedd Zora Neale Hurston (7 Ionawr 1891 - 28 Ionawr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, nofelydd newyddiadurwr ac arbenigwr mewn llên gwerin. Darluniodd yn ei nofelau y frwydr hiliol yn Ne'r Unol Daleithiau a'r ymarfer o Vodou yn Haiti.
Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama a bu farw yn Fort Pierce o strôc ond symudodd y teulu i Eatonville, Florida, ym 1894. Mae Eatonville yn lleoliad ar gyfer llawer o'i straeon. Mae bellach yn safle'r 'Gŵyl Zora!' a gynhelir bob blwyddyn er anrhydedd iddi. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Howard, Prifysgol Columbia a Choleg Barnard.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Their Eyes Were Watching God'' (1937). Ysgrifennodd hefyd dros 50 o straeon byrion, dramâu a thraethodau.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Erthygl
-
2
-
3