Herodotus

Hanesydd Groeg oedd Herodotus neu Herodotus o Halicarnassus (Groeg Hρόδοτος hλικαρνoσσεύς) (c.485 CC - 425 CC), a aned yn Halicarnassos, trefedigaeth Roegaidd ar arfordir deheuol Asia Leiaf. Cicero a'i alwodd yn "Dad Hanes" am y tro cyntaf.

Pan ddaeth y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf yn rhydd o reolaeth Persia, teithiodd Herodotus yn Asia Leiaf, ynysoedd Môr Egeaidd, Gwlad Groeg, Macedonia, Thracia, arfordir y Môr Du, Persia, Tyre a Ffenicia, yr Aifft a Cyrenaica. Yn 443 CC aeth i'r drefedigaeth Athenaidd newydd Thurii, ar Gwlff Tarentino. Oddi yno ymwelodd â Sisili a sawl dinas yn ne'r Eidal. Roedd yn ddyn chwilfrydig iawn, a chasglai bob math o ddeunydd yn ymwneud â hanes, mytholeg, daearyddiaeth, ethnoleg ac archaeoleg yr Henfyd a'r tu hwnt.

Ei fwriad oedd cyfansoddi llyfr hanes yn olrhain cwrs ac achosion y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r ''barbaroi'' (barbariaid neu estronwyr). Mae ei lyfr enwog yr ''Historiai'' yn dechrau gyda chwncwest y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf gan yr ymerodr Persiaidd Croesus. Wedyn cawn hanes Lydia, Persia, Babilon a'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn gorffen â hanes y Rhyfeloedd Persiaidd (500 CC - 479 CC). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8 ar gyfer chwilio 'Herodotus', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Herodotus, Herodotus
    Cyhoeddwyd 1991
    Rhif Galw: GE e0 04 */Ges -02
    Llyfr
  2. 2
    gan Herodotus, Herodotus
    Cyhoeddwyd 1991
    Rhif Galw: GE e0 04 */Ges -01
    Llyfr
  3. 3
    gan Herodotus, Herodotus
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: TG Her 2 *Her/Ges-02
    Llyfr
  4. 4
    gan Herodotus, Herodotus
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: TG Her 2 *Her/Ges-01
    Llyfr
  5. 5
    gan Herodotus
    Cyhoeddwyd 1991
    Rhif Galw: GE e0 04 */Ges -01/02
    Llyfr
  6. 6
    gan Herodotus
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: TG Her 2 *Her/Ges-01
    Llyfr
  7. 7
    gan Herodotus
    Cyhoeddwyd 1916
    Rhif Galw: TG Her 3 *Her/Ori
    Llyfr
  8. 8
    gan Herodotus
    Cyhoeddwyd 2001
    Rhif Galw: TG Her 3 *Her/Ges
    Llyfr