Max Frisch
Dramodydd a nofelydd Swisaidd oedd Max Rudolf Frisch (15 Mai 1911 – 4 Ebrill 1991) sydd yn nodedig am ei bortreadau o gyfyng-gynghorau moesol ym mywyd yr 20g. Dylanwadwyd arno yn gryf gan Bertolt Brecht a Thornton Wilder, ac mae nifer o'i ddramâu—yn eu plith ''Andorra'' (1961)—yn ymwneud â ffawd dyn a'r trafferthion o'i sylweddoli yn y gymdeithas gyfoes.Ganed ef yn Zürich, y Swistir. Astudiodd lenyddiaeth Almaeneg ym Mhrifysgol Zürich, ond ym 1933 gadawodd y brifysgol heb ennill ei radd er mwyn cychwyn ar yrfa fel newyddiadurwr. Teithiodd ar draws de a dwyrain Ewrop o 1934 i 1936, cyn ddychwelyd i Zürich i astudio pensaernïaeth. Gwasanaethodd ym myddin y Swistir yn yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn bensaer tra'n ysgrifennu yn ei amser rhydd.
Drama foes yw ei waith cyntaf a berfformiwyd ar y llwyfan, ''Nun singen sie wieder'' (1945), sydd yn defnyddio tablos swrealaidd i ddadlennu safbwyntiau rhyfelwyr a dioddefwyr yn ystod y rhyfel. Mae ei ddramâu eraill yn cyfnod cychwynnol ei yrfa yn cynnwys y ddwy felodrama hanesyddol ''Die chinesische Mauer'' (1947) ac ''Als der Krieg zu Ende war'' (1949), yr esiampl dreisgar o feirniadaeth gymdeithasol ''Graf Öderland'' (1951), a'r addasiad o chwedl Don Juan, ''Don Juan oder die Liebe zur Geometrie'' (1953). Rhodd Frisch y gorau i bensaernïaeth ym 1955 i lenora llawn-amser.
Mae dramâu eraill Frisch yn cynnwys y ddrama ddamhegol ''Biedermann und die Brandstifter'' (1958), ''Andorra'' (1961), a ''Biografie'' (1967). Mae ei nofelau cynnar yn cynnwys ''Stiller'' (1954), ''Homo Faber'' (1957), a ''Mein Name sei Gantenbein'' (1964), sydd yn portreadu agweddau ar fywyd deallusol modern ac yn archwilio thema hunaniaeth. Mae ei nofelau diweddar yn cynnwys ''Montauk: Eine Erzählung'' (1975), ''Der Mensch erscheint im Holozän'' (1979), a ''Blaubart'' (1982). Cyhoeddodd hefyd sawl gwaith hunangofiannol, gan gynnwys day ddyddiadur, ''Tagebuch 1946–1949'' (1950) a ''Tagebuch 1966–1971'' (1972).
Bu farw Max Frisch yn Zürich o ganser yn 79 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4Pennod Llyfr
-
5Pennod Llyfr
-
6Rhif Galw: FS 3 */Auf <01>Erthygl
-
7
-
8
-
9
-
10gan Frisch, Max
Cyhoeddwyd yn Reisen ins Reich 1933 - 1945 : ausländische Autoren berichten aus Deutschland.(2004)Erthygl -
11
-
12
-
13Erthygl
-
14Erthygl
-
15
-
16gan Frisch, Max
Cyhoeddwyd yn Ein Schriftsteller schreibt ein Buch über einen Schriftsteller, der zwei Bücher über zwei Schriftsteller schreibt, von denen einer schreibt, weil er die Wahrheit liebt, der andere, weil sie ihm gleichgültig ist. Von diesen zwei Schriftstellern werden insgesamt zweiundzwanzig Bücher geschrieben, ... : Dichter über Dichter und Dichtung.(1984)Erthygl -
17Awduron Eraill: “...Frisch, Max...”
Rhif Galw: LG e9 20.2+ */Sch-01Llyfr -
18Cyhoeddwyd 1978Awduron Eraill: “...Frisch, Max / Tagebuch *...”
Rhif Galw: GR 3B e0 18/20 */JouTrafodyn Cynhadledd Llyfr