Friedrich Schlegel
Ysgolhaig, beirniad llenyddol, ieithegwr, ac ysgrifwr Almaenig oedd Karl Wilhelm Friedrich Schlegel (10 Mawrth 1772 – 12 Ionawr 1829).Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y gyfraith a'r clasuron yn Göttingen a Leipzig. Mae ei weithiau creadigol cynnar yn cynnwys y nofel grasboeth ''Lucinde'' (1799) a'r drasiedi ''Alarcos'' (1802).
Gyda'i frawd hŷn August Wilhelm Schlegel golygydd y cyfnodolyn ''Das Athenäum'' (1798–1800), a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill. Bu ysgrifau a mân-feirniadaeth Friedrich Schlegel yn ''Das Athenäum'' yn ei osod ar flaen y gad yn y mudiad Rhamantaidd Almaenig.
Mae Friedrich Schlegel yn nodedig am ei astudiaethau o hanes llenyddol, yn enwedig ''Geschichte der alten un neuen Literatur'' (1815), a'i waith ar yr iaith Sansgrit a'i barddoniaeth, ''Sprache und Weisheit der Inder'' (1808), a fu'n gyfraniad cynnar pwysig i astudiaethau Dwyreiniol yn Ewrop.
Bu farw Friedrich Schlegel yn Dresden, Teyrnas Sachsen, yn 56 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
41
-
42Erthygl
-
43
-
44
-
45Pennod Llyfr
-
46Pennod Llyfr
-
47
-
48
-
49
-
50Pennod Llyfr
-
51Pennod Llyfr
-
52Pennod Llyfr
-
53Pennod Llyfr
-
54Pennod Llyfr
-
55Pennod Llyfr
-
56Pennod Llyfr
-
57Pennod Llyfr
-
58Pennod Llyfr
-
59Pennod Llyfr
-
60Pennod Llyfr