Gottfried Wilhelm Leibniz
Athronydd Almaenig oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 1646 – 14 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.
Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y ''characteristica universalis'' — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.
Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) ''Nouveaux Essais sur l'entendement humain'' (1704), ''Essais de théodicée'' (1710) a ''Monadologie'' (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o ''monades'' a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (''Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles'').
Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol ''Candide'', sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18g. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.
Bu farw Leibniz yn Hannover yn 1716, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
21Pennod Llyfr
-
22Pennod Llyfr
-
23
-
24
-
25Erthygl
-
26Erthygl
-
27
-
28
-
29
-
30Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-04Llyfr
-
31Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-01Llyfr
-
32gan Leibniz, Gottfried Wilhelm, Bernoulli, Jacob, Bernoulli, Johann, Leibniz, Gottfried Wilhelm
Cyhoeddwyd 1971Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-03Llyfr -
33gan Leibniz, Gottfried Wilhelm, Bernoulli, Jacob, Bernoulli, Johann, Leibniz, Gottfried Wilhelm
Cyhoeddwyd 1971Rhif Galw: PH 1 Leib 1 (1849) *-02Llyfr -
34Rhif Galw: PH 1 Leib 4 *Lei/BriLlyfr
-
35
-
36Rhif Galw: PH 1 Leib 4 *Lei/LeiLlyfr
-
37gan Costabel, PierreAwduron Eraill: “...Leibniz, Gottfried Wilhelm...”
Cyhoeddwyd 1960
Rhif Galw: PH 1 Leib 6 *Cos/LeiLlyfr -
38Cyhoeddwyd 1992Awduron Eraill: “...Leibniz, Gottfried Wilhelm...”
Rhif Galw: PH 8 */Phi-02Llyfr