Samuel Beckett

Dramodydd a bardd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Ffrangeg a Saesneg oedd Samuel Barclay Beckett (13 Ebrill 190622 Rhagfyr 1989). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1969.

Ganed ef yn Foxrock, ar gyrion Dulyn. Astuddiodd Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1923 hyd 1927. Wedi graddio cafodd swydd ''lecteur d'anglais'' yn yr École Normale Supérieure ym Mharis, lle daeth i adnabod James Joyce.

Cyhoeddodd ei draethawd cyntaf, ''...Bruno. Vico..Joyce'', yn 1929. Yn 1930 dychwelodd i Goleg y Drindod fel darlithydd, ond ymddiswyddodd y flwyddyn wedyn. Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, ''Dream of Fair to Middling Women'', yn 1932, ond ni allodd gael cyhoeddwr iddi. Yn 1935, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth, ''Echo's Bones and Other Precipitates''. Bu'n teithio llawer yn Ewrop, a chyhoeddodd nofel ''Murphy'' yn 1938.

Bu'n aelod o'r ''Résistance'' Ffrengig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chyflwynodd y llywodraeth y Croix de guerre a'r Médaille de la Résistance iddo ar ddiwedd y rhyfel. Rhwng Hydref 1948 a Ionawr 1949 bu'n gweithio ar ei ddrama enwocaf, ''En attendant Godot''. Cyhoeddwyd hi yn 1952, a bu'r perfformiad cyntaf yn 1953. Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o ddramau eraill.

Bu farw ar 22 Rhagfyr 1989 a chladdwyd ef yn y Cimetière du Montparnasse ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 21 - 30 canlyniadau o 30 ar gyfer chwilio 'Beckett, Samuel', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 21
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1951
    Rhif Galw: TF Bec 3 *Bec/Mal
    Llyfr
  2. 22
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1953
    Rhif Galw: TF Bec 3 *Bec/inn
    Llyfr
  3. 23
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1961
    Rhif Galw: TF Bec 3 *Bec/Com
    Llyfr
  4. 24
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: TF Bec 3 *Bec/Com
    Llyfr
  5. 25
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1976
    Rhif Galw: TF Bec 3 *Bec/Pou
    Llyfr
  6. 26
    Erthygl
  7. 27
    gan Beckett, Samuel
    Cyhoeddwyd 1995
    Rhif Galw: TF Bec 1 (1976)
    Llyfr
  8. 28
    Erthygl
  9. 29
    Erthygl
  10. 30
    Erthygl